top of page

Ynni Ystradau Cyfyngedig

Cymdeithas Budd Gymunedol Gofrestredig â'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol Rhif 9786

Swyddfa Gofrestredig:
Fyny Grisiau
5 Stryd Fawr
Blaenau Ffestiniog
Gwynedd
LL41 3SE

Ebost: ynniystradau@cwmnibro.cymru

Ffôn: 01766 831111

Diweddarwyd ddiwethaf: Mehefin 2026

1. Cyflwyniad

Mae Ynni Ystradau Cyfyngedig ("Ynni Ystradau", "ni", "ein") yn Gwmni Gwasanaethau Ynni Cymunedol (CESCo) ac yn Gymdeithas Er Budd Cymunedol sydd wedi ei chofrestru gyda'r Awdurdod Conduct Ariannol dan y rhif cofrestru 9786.

Rydyn ni wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch y wybodaeth bersonol sydd yn cael ei rhannu â ni. Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn egluro sut ydyn ni yn casglu, defnyddio, cadw a diogelu gwybodaeth bersonol wrth ddarparu gwasanaethau gwresogi a dŵr poeth drwy ein systemau gwresogi ardal, rheoli ein gwefan a chynnal gweithgarwch yn ymwneud ag ynni cymunedol.

Rydyn ni yn prosesu data personol yn unol a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UK GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 a deddfwriaethau perthnasol eraill.

2. Rheolwr Data

Ynni Ystradau Cyfyngedig yw'r rheolwr data ar gyfer y wybodaeth bersonol rydyn ni yn ei phrosesu.

Ar gyfer ymholiadau am ddiogelu preifatrwydd a data, os gwelwch yn dda cysywllt ag:

Ebost: ynniystradau@cwmnibro.cymru

Ffôn: 01766 831111

3. Gwybodaeth Bersonol rydyn ni yn ei Chasglu

Mae'n bosib y byddwn yn casglu a phrosesu:

Gwybodaeth am hunaniaeth

  • Enw

  • Dyddiad geni

  • Dogfennau adnabod

Gwybodaeth cysylltu

  • Cyfeiriad post

  • Cyfeiriad ebost

  • Rhif ffôn

Gwybodaeth ariannol

  • Manylion cyfrif banc

  • Cofnodion talu

  • Hanes bilio

Gwybodaeth gwasanaeth

  • Gwybodaeth eiddo

  • Darlleniadau fesuryddion gwres

  • Data am ddefnydd gwres a dŵr poeth

  • Data mesurydd clyfar

  • Data am berfformiad y system

Gwybodaeth cyflogaeth

  • Ceisiadau swyddi

  • CVs

  • Cofnodion cyflogaeth

  • Geirdai

Gwybodaeth dechnegol

  • Gwybodaeth defnydd gwefan

  • Gwybodaeth am y dyfais

  • Cyfeiriadau IP

  • Gwybodaeth ddadansoddol

  • Dewisiadau cwcis

Gwybodaeth marchnata

  • Dewisiadau tanysgrifiadau

  • Dewisiadau cyfathrebu

  • Cofnod o cysyniad

4. Sut ydyn ni yn Casglu Data

Rydyn ni yn casglu data:

  • Yn uniongyrchol gan gwsmeriaid ac aelodau

  • Drwy gytundebau a chytundebau gwasanaeth

  • Dros y ffôn, ebost ac ein cyfathrebu

  • Drwy ffurflenni ar y wefan

  • Yn ystod cyfarfodydd a gweithgarwch ymgysylltu cymunedol

  • Drwy systemau monitro gwresogi ardal a mesuryddion clyfar

  • Gan gontractwyr a darparwyr gwasanaeth

  • Gan gyrff ariannu pan fo hynny yn briodol

  • Gan ffynonellau cyhoeddus pan fo hynny yn gyfreithlon

5. Sut ydyn ni yn Defnyddio Gwybodaeth Bersonol 

Rydyn ni yn defnyddio gwybodaeth bersonol i:

Ddarparu Gwasanaethau Ynni

  • Darparu gwasanaethau gwres a dŵr poeth

  • Rheoli cyfrifon cwsmeriaid

  • Cyflenwi biliau a phrosesu taliadau

  • Archwilio diffygion a chwynion

Gweithredu a Gwella Systemau

  • Monitro perfformiad system wresogi ardal

  • Gwella effeithlonrwydd a dibynadwyedd

  • Cynllunio gwaith cynnal a chadw ac uwchraddio

Gweithredu'r Wefan

  • Cynnal diogelwch y wefan

  • Monitro perfformiad y wefan

  • Dadansoddi defnydd y wefan

  • Gwella cynnwys y wefan a phrofiad defnyddiwr

  • Ymateb i ymholiadau sydd yn dod drwy'r wefan

Gweinyddiaeth

  • Cynnal cofnodion

  • Rheoli cytundebau

  • Cadw at ofynion llywodraethiant

Ariannu ac Adrodd

  • Dangos canlyniadau'r prosiect

  • Cwrdd â gofynion adrodd cyllidwyr

Cyfathrebu

  • Darparu diweddariadau am y gwasanaeth

  • Ymateb i ymholiadau

  • Gyrru hysbysiadau brys

Marchnata

  • Gyrru cylchlythyron a diweddariadau pan fo cysyniad wedi ei roi

Recriwtio a Chyflogaeth

  • Asesu ymgeiswyr

  • Rheoli perthnasoedd gweithwyr

6. Seiliau Cyfreithiol i Brosesu

Rydyn ni yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol dilynol:

Cytuneb

Prosesu yn angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau dŵr poeth a gwresogi.

Gofyniad Cyfreithiol

Prosesu yn angenrheidiol yn sgil gofynion trethu, cyfrifo, cyflogaeth a gofynion cyfreithiol eraill.

Buddiant Dilys

Prosesu yn angenrheidiol er gweinyddiaeth, diogelwch, atal twyll, cefnogi cwsmer, gweithrediad y wefan a gwella'r gwasanaeth

Cysyniad

Cyfathrebu yn ymwneud â marchnata, cwcis gwefan anhanfodol a gweithgarwch eraill lle mae angen cysyniad.

7. Data Defnydd Ynni a Mesuryddion

Fel Cwmni Gwasanaethau Ynni Cymunedol, rydyn ni yn casglu a phroses data mesuryddion gwres a defnydd ynni.

Mae'r wybodaeth yn cael ei ddefnyddio i

  • Fesur defnydd ynni

  • Cyfrifo costau

  • Monitro perfformiad y rhwydwaith

  • Rhoi diagnosis o ddiffygion

  • Gwella effeithlonrwydd

  • Cwrdd â gofynion cytundebol

  • Adrodd canlyniadau i ariannwyr lle fo'n briodorol

Dim ond y wybodaeth sydd ei angen ar gyfer y pwrpasau hyn sydd yn cael ei brosesu.

8. Defnydd Gwefan a Chwcis

Pan rydych yn ymweld â'n gwefan, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth dechnegol yn awtomatig, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, math o borwr, gwybodaeth dyfais, tudalennau rydych chi yn ymweld â nhw a'r amser sydd yn cael ei dreulio ar y wefan. 

Rydyn ni yn defnyddio'r wyboadeth hon i:

  • Gynnal diogelwch y wefan

  • Monitro perfformiad y wefan

  • Deall sut mae ymwelwyr yn defnyddio'r wefan

  • Gwella ein gwasanaethau ac ein cyfathrebu

Efallai y byddwn yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg i sicrhau ymarferoldeb ac analytigs y wefan. Ble fo'r gyfraith yn gofyn, byddwn yn gofyn am eich cysyniad cyn gosod cwcis anhafodol ar eich dyfais.

Gallwch reoli eich gosodiadau cwcis drwy eich dewisiadau porwr ac unrhyw arfau cysynio i gwcis ar ein gwefan. 

Os ydych yn cwblhau ffurflen gysylltu, ffurflen derbyn cylchlythyron, ffurflen ymholiadau aelodau neu unrhyw ffurflen ar-lein arall, byddwn yn proses'r wybodaeth rydych chi yn ei darparu er mwyn ymateb i'ch ymholiad a gweithredu ein gwasanaethau.

9. Rhannu Gwybodaeth

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda:

  • Contractwyr cynnal a chadw

  • Ymgynghorwyr ynni

  • Proseswyr taliadau

  • Cyfrifwyr ac auditors

  • Cynghorwyr cyfreithiol

  • Darparwyr TG a gwasanaethau'r cwmwl

  • Adrannau llywodraeth ac archwilwyr

  • Ariannwyr grantiau ble fo'n ofynnol

Dydyn ni ddim yn gwerthu gwybodaeth bersonol.

Pan fo ariannwyr prosiect yn gofyn am adroddiadau, byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol pan fo hynny yn angenrheidiol ac yn gyfreithiol yn unig. Ble bynnag fo'n bosib, bydd adrodd yn ddienw neu'r wybodaeth wedi ei grynhoi. 

10. Trosglwyddiadau Rhyngwladol

Pan fo gwybodaeth yn cael ei brosesu tu allan i'r Deyrnas Unedig, bydd mesurau diogelu priodol yn cael eu cymryd yn unol ag UK GDPR.

11. Diogelwch Data

Rydyn ni yn cymryd mesurau technegol a sefydliadol addas i ddiogelu gwybodaeth bersonol rhag mynediad heb ei awdurdodi, datguddiad, colli neu gamddefnyddio. 

12. Cadw Data

Dydyn ni ond yn cadw data bersonol cyn hired ag sydd angen.

Mae cyfnodau cadw data arfer yn cynnwys:

  • Cofnodion cyfrif cwsmer: 6 mlynedd ar ôl cau

  • Cofnodion ariannol: 7 mlynedd

  • Cofniodion mesur: 7 mlynedd

  • Cofnodion recriwtio: 12 mis

  • Cofnodion cyflogai: 6 mlynedd ar ôl i'r cyfnod cyflogaeth orffen

13. Eich Hawliau

Dan UK GDPR, mae gennych hawl i:

  • Gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol

  • Cywiro gwybodaeth anghywir

  • Gofyn am ddileu ble fo'n addas

  • Cyfyngu prosesu

  • Gwrthwynebu prosesu

  • Gwrthwynebu marchnata uniongyrchol

  • Gofyn am symud data

  • Tynnu cysyniad yn ôl ble fo prosesu yn seiliedig ar gysyniad

  • Gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

  • Peidio bod yn destun penderfyniadau automatig yn unig lle bo'n berthnasol

Dylid gyrru ceisiadau i ynniystradau@cwmnibro.cymru.

14. Cwynion

Os ydych chi yn anhapus gyda sut rydyn ni yn prosesu eich gwybodaeth, plis cysylltwch gyda ni gyntaf er mwyn i ni drio datrys eich pryderon. 

Mae gennych chi hefyd hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

Information Commissioner's Office (ICO)

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Gwefan: ico.org.uk

Ffôn: 0303 123 1113

15. Newidiadau i'r Polisi Hwn

Efallai y byddwn yn diweddaru'r Polisi Preifatrwydd hwn o dro i dro. Bydd y fersiwn diweddaraf o hyd ar gael er ein gwefan ac ar gais.

POLISI PREIFATRWYDD

bottom of page