.jpg)
Cymorth i Gwsmeriaid mewn Sefyllfaoedd Bregus
Rydyn ni yn deall bod sefyllfaoedd cwsmeriaid yn gallu newid, ac y gallai rhai cwsmeriaid fod angen cymorth ychwanegol er mwyn rheoli eu gwasanaethau ynni. Rydyn ni yn benderfynol o adnabod a chefnogi cwsmeriaid mewn sefyllfaoedd bregus a sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn cael eu trin yn deg, gyda pharch ac mewn modd sensitif.
Os ydych chi yn meddwl y gallech chi fod angen cymorth ychwanegol, plis cysylltwch â ni fel ein bod ni yn gallu deall eich amgylchiadau a darparu chymorth addas.
Ein Hymrwymiad i Chi
Mae gennym ni ofynion penodol i gefnogi cwsmeriaid mewn sefyllfaoedd bregus. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau rhesymol i adnabod cwsmeriaid allai fod angen cymorth ychwanegol a darparu gwasanaethau wedi eu teilwra i gwrdd â’u hanghenion penodol.
Byddwn yn:
-
Eich trin yn deg a gyda dealltwriaeth
-
Ystyried eich amgylchiadau personol
-
Darparu gwybodaeth glir, hygyrch
-
Gweithio gyda chi i gytuno ar ddatrysiadau addas
-
Eich cyfeirio at gyngor a gwasanaethau cefnogi annibynnol
Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol
Os oes gennych chi anghenion ychwanegol, gallwch ymuno â’n Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol, sydd yn wasanaeth am ddim i ddarparu cymorth ychwanegol.
Gallech fod yn gymwys os ydych chi:
-
Dros 60 oed, neu yn byw gyda rhywun sydd
-
Gydag anabledd neu gyflwr iechyd hir-dymor
-
Gyda phlant dan 5 oed
-
Yn profi caledi economaidd
-
Angen help gyda chyfathrebu neu reoli eich cyfrif (er enghraifft, os nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os ydych chi angen print mawr ayyb)
Mae buddion ymuno yn cynnwys:
-
Cefnogaeth flaenoriaethol
-
Cyfathrebu hygyrch (e.e. print mawr, fformatau amgen)
-
Cymorth ychwanegol wedi ei deilwra i'ch anghenion.
Efallai y byddwn yn adnabod cwsmeriaid a allai elwa o’r gwasanaeth, ond rydyn ni yn eich annog chi i gysylltu â ni yn uniongyrchol er mwyn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth gywir.
Cymorth gyda Thrafferthion Talu
Rydyn ni yn deall bod sefyllfa ariannol yn gallu newid. Os ydych chi yn cael trafferth talu am eich gwres a'ch dŵr poeth, plis cysylltwch â ni cyn gynted â phosib. Bydd yn gweithio gyda chi er mwyn cytuno ar ddatrysiad addas ac ymarferol.
Gallai hyn gynnwys:
-
Cynlluniau talu hyblyg
-
Mwy o amser i dalu
-
Cefnogaeth i reoli eich cyfrif
Datgysylltiad yw'r opsiwn olaf bob tro. Byddwn ni bob tro yn trio deall eich sefyllfa a gweithio gyda chi i osgoi unrhyw amharu ar eich gwasanaeth.
Diogelwch Dros y Gaeaf
Ni fyddwn yn diffodd eich cyflenwad gwres yn ystod y gaeaf pan fyddwn yn ymwybodol bod gan aelwydydd unigolion sydd:
-
Dan 2 oed neu dros 75 oed
-
Gan anableddau neu gyflwr meddygol hirdymor
-
Gan salwch terfynol neu salwch cronig
-
Angen gwres neu ddŵr poeth am resymau meddygol
Os gwelwch yn dda, rhowch wybod am eich sefyllfa fel ein bod ni yn gallu sicrhau bod y diogelwch hwn mewn lle.
Rheoli Eich Ynni a Gwella Effeithlonrwydd
Rydyn ni yn darparu gwybodaeth a chyngor ar sut i reoli eich defnydd ynni a gwella effeithlonrwydd, gan gynnwys:
-
Addasu defnydd gwres a dŵr poeth
-
Gostwng defnydd ynni
-
Rheoli costau cysylltiedig
Cyngor effeithlonrwydd ynni annibynnol:
-
Energy Saving Trust
https://energysavingtrust.org.uk -
Simple Energy Advice (UK Government)
https://www.simpleenergyadvice.org.uk
Mae'r sefydliadau hyn yn darparu arweiniad ar wella effeithlonrwydd ynni a gwybodaeth am y rhaglenni a chefnogaeth sydd ar gael,
Atal Dyled, Cyngor a Chefnogaeth
Rydyn ni yn darparu gwybodaeth ar atal a rheoli dyledion a gallwn eich cefnogi os ydych chi yn cael trafferthion ariannol.
Gallwch gael cyngor annibynnol, am ddim gan:
-
Cyngor ar Bopeth
https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/ -
National Debtline
https://www.nationaldebtline.org -
StepChange Debt Charity
https://www.stepchange.org
Cyngor a Chefnogaeth Wyneb yn Wyneb
Rydyn ni yn deall y byddai'n well gan rai bobol gael cefnogaeth wyneb yn wyneb. Drwy ein chwaer sefydliad, Y Dref Werdd, gallwch gael cyngor a chymorth ymarferol wyneb yn wyneb, am ddim yn y gymuned.
Lleoliad
Mae’r Ganolfan Galw Heibio ar lawr gwaelod:
5 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3ES
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Yn y ganolfan, gallwch dderbyn cymorth a chyngor ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys:
-
Biliau ynni a chyfleustodau
-
Budd-daliadau a chymorth ariannol
-
Cyfeiriadau banc bwyd
-
Mynediad at fanc coed tân cymunedol
-
Cyngor cyffredinol ar reoli costau tŷ
-
Gweithgareddau iechyd a llesiant
Mae'r ganolfan hefyd yn darparu mynediad at ffrij cymunedol, gan gynnig bwyd am ddim o archfarchnadoedd fyddai’n mynd yn wastraff fel arall.
Cefnogi’r Gymuned
Mae'r Ganolfan Galw Heibio yn anelu at fod yn ganolbwynt i'r ardal leol, gan helpu i:
-
Liniaru tlodi tanwydd
-
Gostwng cyfrannau tlodi bwyd
-
Darparu cefnogaeth ehangach i rai sy’n profi caledi ariannol
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i'ch cefnogi ochr yn ochr â'r arweiniad rydyn ni yn ei ddarparu yn uniongyrchol.
Gwybodaeth ac Arweiniad Annibynnol
Rydyn ni yn darparu mynediad at gyhoeddiadau ac arweiniad perthnasol am ein gwasanaethau, gan gynnwys deunyddiau gan:
-
Ofgem – y rheoleiddiwr ynni https://www.ofgem.gov.uk/cy
-
Cyngor ar Bopeth
https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/
Rydyn ni yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan ac yn cyhoeddi'r arweiniad berthnasol a'r wybodaeth gynghorol o fewn 28 diwrnod i'w cyhoeddi, pan fo hynny yn berthnasol.
Rhaglenni Cefnogaeth Gymdeithasol ac Ariannol
Os ydych chi yn poeni am gostau ynni neu os hoffech chi wella effeithlonrwydd ynni eich cartref, efallai bod cymorth ar gael. Gallwn ddarparu gwybodaeth am grantiau, cymorth ariannol, gwelliannau arbed ynni a rhaglenni cefnogaeth a allai fod yn berthnasol i'ch sefyllfa.
Gallwn ni hefyd eich cyfeirio at sefydliadau dibynadwy sydd yn cynnig cyngor diduedd am ddim, gan gynnwys Nyth Cymru, Energy Saving Trust, Cyngor ar Bopeth ac Ofgem.
Mesuryddion Rhagdalu
Dydyn ni ddim yn cynnig mesuryddion rhagdalu ar y funud. Fodd bynnag, os ydych chi yn teimlo y byddai cynllun rhagdalu o fudd, bydden ni yn hapus i drafod ac archwilio datrysiadau eraill allai helpu.
Cysylltwch â Ni
Os ydych chi yn meddwl eich bod chi mewn sefyllfa fregus neu yn teimlo y byddech chi yn elwa ar gael cefnogaeth ychwanegol, cysylltwch os gwelwch yn dda. Gallwch yrru ebost atom, ein ffonio neu ddod i’r swyddfa am sgwrs.
Rydyn ni yn deall ei bod hi weithiau yn anodd siarad am sefyllfaoedd personol. Byddwch chi wastad yn cael eich trin â pharch, dealltwriaeth a heb farnu.
Nid oes rhaid i chi rannu mwy o wybodaeth nag ydych chi yn teimlo yn gyfforddus yn ei rannu, ond bydd unrhyw fanylion y gallwch eu darparu yn ein helpu ni i gynnig y gefnogaeth fwyaf addas.
Bydd unrhyw wybodaeth rydych chi yn ei rannu gyda ni yn cael ei drin mewn modd hollol gyfrinachol. Fyddan ni ond yn rhannu manylion gyda sefydliadau perthnasol pan fo'n angenrheidiol a gydag eich caniatâd. Ceir mwy o wybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd.
Mae ein tîm yma i wrando a gweithio gyda chi er mwyn canfod datrysiad sydd yn addas i’ch anghenion unigol.