top of page

Ein Hamcan

  1. Cael gwared ar dlodi tanwydd a gwneud ynni yn fforddiadwy i bawb.

  2. Gwella iechyd, llesiant ac amodau byw drwy ôl-ffitio ansawdd uchel a datrysiadau gwresogi dibynadwy.

  3. Creu a gwarchod swyddi, sgiliau a buddsoddiad lleol.

  4. Datgarboneiddio cymunedau a lleihau’r ddibyniaeth ar farchnadoedd ynni ansefydlog.

  5. Ail-fuddsoddi arian dros ben yn lleol er mwyn cael y buddion mwyaf i’r gymuned/

Rydyn ni yn falch o weithredu fel sefydliad cymunedol, yn darparu buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol hirdymor.

Ein Hymrwymiad I Chi

Yn Ynni Ystradau Cyf, rydyn ni’n benderfynol o ddarparu cyflenwad gwres dibynadwy a theg o ansawdd uchel i’ch cartref.

Mae’r Siarter Cwsmer hwn yn egluro sut wasanaeth allwch chi ddisgwyl gennym, ein safonau ac ein cyfrifoldebau, sut y byddwn yn eich cefnogi a beth i’w wneud os yw pethau yn mynd o chwith.

Ein Hymrwymiad i'r Gymraeg, i Dreftadaeth ac i Gymuned

Llun o adfail chwarelyddol gyda graffiti yn dweud 'Cofiwch Llechwedd' yn erbyn awyr las.

Rydyn ni yn ymrwymo i:

  • Hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg, gan sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg

  • Rhoi’r Gymraeg gyntaf fel sefydliad, gyda diwylliant a hunaniaeth leol wrth wraidd ein gwasanaeth

  • Parchu a dathlu ein treftadaeth a gwerthoedd ein cymunedau

Mae ein gwaith yn adeiladu ar hanes ein hardal

Mae’r adnoddau ynni lleol rydyn ni yn eu defnyddio heddiw yn adlewyrchu traddodiad hir o gymunedau yn cynhyrchu ac yn dibynnu ar ffynonellau ynni lleol, gan gynnwys yr hydros gafodd eu hadeiladu gan ein cymunedau chwarelyddol yn y gorffennol.

Drwy systemau gwresogi modern, cynaliadwy, rydyn ni’n anelu at:

  • Anrhydeddu’r dreftadaeth hon

  • Cefnogi cymunedau heddiw

  • Adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy a gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Rydyn ni yn falch o fod yn sefydliad cymuned, Cymraeg, wedi ein gwreiddio yn niwylliant, iaith a hanes yr ardal rydyn ni yn ei gwasanaethu.

Ein Gwerthoedd

Un o'n diwrnodau ymgysylltu yn yr ardd gymunedol, aelodau o'r gymuned yn casglu afalau ac yn cydweithio.

Rydyn ni yn cael ein llywio gan:

  • Degwch: trin pob cwsmer yn gyfartal a gyda pharch

  • Tryloywder: prisiau clir a chyfathrebu onest

  • Dibynadwyedd: cyflenwad gwres dibynadwy allwch chi ymddiried ynddo

  • Canolbwyntio ar gymuned: rhoi pobol leol gyntaf

  • Cynaliadwyedd: gostwng allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd

Darparu Eich Cyflenwad Gwres

Byddan ni yn:

  • Darparu cyflenwad gwres a dŵr poeth 24 awr y diwrnod, trwy gydol y flwyddyn, lle bynnag fo hynny yn rhesymol bosib

  • Lleihau effaith amhariadau a gwneud gwaith cynnal a chadw wedi ei gynllunio yn ystod misoedd yr haf yn bennaf

  • Hysbysu am amhariadau wedi eu cynllunio o flaen llaw

  • Gweithio yn sydyn i adfer cyflenwad os yw’n cael ei amharu

Pan mai ein bai ni yw amhariadau, byddan ni yn:

  • Darparu iawndal yn unol â’n safonau gwasanaeth

Safonau Gwasanaeth

Rydyn ni yn anelu at ymateb a datrys problemau o fewn yr amseroedd canlynol:

Situation
Response Time
Emergency
Within 4 Hours
No heat (winter)
Within 8 Hours
No heat (summer)
Within 12 hours
Reduced or inadequate heating
Within 24 hours
Other issues
Within 48 hours

Byddan ni yn:

  • Rhoi o leiaf 48 awr o rybudd ar gyfer ymweliadau wedi eu cynllunio

  • Cynnig amser o fewn 4 awr ar gyfer apwyntiadau

  • Archwilio unrhyw offer bob 24 mis, o leiaf​

⚠️ Amhariadau ac Argyfyngau

Mae’n bosib y bydd y cyflenwad yn cael ei effeithio weithiau er mwyn:

  • Sicrhau diogelwch

  • Gwneud gwaith cynnal a chadw

  • Cwrdd â gofynion cyfreithiol

Os oes amharu annisgwyl i’ch gwres:

  • Cysylltwch â ni ar unwaith

  • Byddan ni yn gwneud cofnod o’r broblem ac esbonio pa gamau rydyn ni yn eu cymryd

  • Byddan ni yn adfer y cyflenwad cyn gynted â phosib

Cefnogi Cwsmeriaid Bregus

Rydyn ni yn darparu cefnogaeth ychwanegol i gwsmeriaid mewn sefyllfaoedd bregus, gan gynnwys:

  • Mynediad at ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol

  • Ymateb blaenoriaethol yn ystod toriadau

  • Cyflenwad gwres amgen o fewn 12 awr yn ystod toriadau hir

Os ydych chi neu unrhyw un yn eich cartref angen cefnogaeth ychwanegol, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.

Cysylltu

Bilio a Thaliadau

Byddan ni yn:

  • Darparu biliau clir a chywir

  • Dangos pob cost, gan gynnwys costau deunydd a chostau sefydlog

  • Darparu datganiad blynyddol

Os oes arian yn ddyledus i chi:

  • Byddwn yn ad-dalu o fewn 10 diwrnod gwaith

Os ydych chi yn cael trafferth talu:

  • Cysylltwch â ni- byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn cytuno ar gynllun talu

Costau Clir a Thryloyw

Byddan ni yn:

  • Adolygu costau yn flynyddol

  • Yn rhoi o leiaf 31 diwrnod o hysbysiad ynglŷn ag unrhyw newidiadau

  • Egluro’r rhesymau dros y newidiadau yn glir

Ni fyddan ni yn:

  • Cynyddu costau fwy nag unwaith mewn unrhyw gyfnod o chwe mis

Gwybodaeth a Chyngor

Byddan ni yn:

  • Darparu cyngor ar leihau deunydd a chostau ynni

  • Rhannu gwybodaeth am berfformiad ac effaith amgylcheddol ein rhwydwaith

    •        ⁃    Sicrhau bod y cyngor a’r wybodaeth i gwsmeriaid yn hawdd i gael gafael arno

Eich Cyfrifoldebau

Er mwyn ein helpu ni i gyflenwi’r gwasanaeth gorau, dylech chi:

  • Dalu eich biliau ar amser

  • Cysylltu â ni os oes gennych chi broblemau neu bryderon

  • Caniatáu mynediad ar gyfer gwaith cynnal a chadw pan fo angen

  • Cynnal system wresogi fewnol eich cartref

Cwynion ac Adborth

Os ydych chi yn anhapus gydag ein gwasanaeth:

Cysylltwch â’n desg gymorth 24/7 ar 01766607606 neu yrru ebost at ynniystradau@cwmnibro.cymru

Byddan ni yn anelu at ddatrys eich pryder yn sydyn a theg.

Os nad ydych chi yn fodlon:

  • Gallwch ddyrchafu eich cwyn drwy ein prosesau

  • Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon Ynni

Gwelliannau Parhaus

Rydyn ni wedi ymrwymo i:

  • Gwrdd â safonau’r Heat Trust

  • Cadw at bob cyfraith a rheoliad perthnasol

  • Gwneud gwelliannau parhaus i’n gwasanaeth yn seiliedig ar eich adborth

bottom of page